Nehemeia 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Yr Iddewon yn cwyno rhag eu dyledion, a’u pris, a’u caethiwed. 6 Nehemeia yn ceryddu yr usurwyr, ac yn peri iddynt roi yr arian a’r pris yn ei ôl: 14 yn maddeu ei gynhaliaeth i’r bobl, ac yn cadw tŷ.

1Ac yr oedd gweiddi mawr gan y bobl, a’u gwragedd, yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.

2Canys yr oedd rhai yn dywedyd, Y mae llawer ohonom ni, ein meibion, a’n merched: am hynny yr ydym yn cymryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.

3Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, Ein meysydd, a’n gwinllannoedd, a’n tai, yr ydym ni yn eu gwystlo, fel y prynom ŷd rhag y newyn.

4Ac yr oedd rhai eraill yn dywedyd, Benthyciasom arian i dalu treth y brenin, a hynny ar ein tiroedd a’n gwinllannoedd.

5Ac yn awr, feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, Yr ydych chwi yn cymryd ocraeth bob un gan ei frawd. A gosodais yn eu herbyn hwynt gynulleidfa fawr.

8Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a Lef 25:48brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.

9A mi a ddywedais, Nid da y peth yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio Lef 25:36mewn ofn ein Duw ni, o achos gwaradwydd y cenhedloedd ein gelynion?

10Myfi hefyd, a’m brodyr, a’m llanciau, ydym yn echwynno iddynt arian ac ŷd: peidiwn, atolwg, â’r ocraeth yma.

11Rhoddwch atolwg, iddynt heddiw eu meysydd, eu gwinllannoedd, a’u holewyddlannoedd, a’u tai drachefn; a chanfed ran yr arian, a’r ŷd, y gwin, a’r olew, yr ydych chwi yn ei fynnu ganddynt.

12Hwythau a ddywedasant, Nyni a’u rhoddwn drachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt; felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru. Yna y gelwais yr offeiriaid, ac Jer 34:8, 9a’u tyngais hwynt ar wneuthur yn ôl y gair hwn.

13A Mat 10:14; Act 13:51; 18:6mi a ysgydwais odre fy ngwisg, ac a ddywedais, Felly yr ysgydwo Duw bob gŵr o’i dŷ, ac o’i lafur, yr hwn ni chwblhao y gair hwn, ac felly y byddo efe yn ysgydwedig, ac yn wag. A’r holl gynulleidfa a ddywedasant, Amen: ac a folianasant yr Arglwydd. A’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

14Ac o’r dydd y gosodwyd fi yn dywysog iddynt hwy yng ngwlad Jwda, o’r ugeinfed flwyddyn hyd y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses y brenin, sef deuddeng mlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog.

15Ond y tywysogion cyntaf, y rhai a fuasai o’m blaen i, fuasent drymion ar y bobl, ac a gymerasent ganddynt fara a gwin, heblaw deugain sicl o arian; eu llanciau hefyd a arglwyddiaethent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly, rhag ofn Duw.

16Eithr myfi a gyweiriais ran yng ngwaith y mur hwn, ac ni phrynasom un maes: a’m holl weision i a ymgynullasant yno at y gwaith.

17Ac yr oedd ar fy mwrdd i, o Iddewon ac o swyddogion, ddengwr a saith ugain, heblaw y rhai oedd yn dyfod atom ni o’r cenhedloedd y rhai oedd o’n hamgylch.

18A’r hyn a arlwyid beunydd oedd un ych, chwech o ddefaid dewisol, ac adar wedi eu paratoi i mi; a phob deng niwrnod y rhoddid gwin o bob math, yn ddiamdlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog; canys trwm oedd y caethiwed ar y bobl yma.

19Pen 13:22Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi, yn ôl yr hyn oll a wneuthum i’r bobl hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help