Nehemeia 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Enwau y rhai a seliasant y cyfamod rhwng Duw a’r bobl. 29 Pynciau y cyfamod.

1A’r rhai a seliodd oedd, Nehemeia y Tirsatha, mab Hachaleia, a Sidcia,

2dyled.

32A ni a osodasom arnom ddeddfau, ar i ni roddi traean sicl yn y flwyddyn, tuag at wasanaeth tŷ ein Duw ni,

33A thuag at Lef 24:5, &c; 2 Cron 2:4y bara gosod, a’r bwyd‐offrwm gwastadol, a thuag at y poethoffrwm gwastadol, Edrych Num 28; Num 29y Sabothau, y newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, a thuag at y cysegredig bethau, a thuag at y pech‐ebyrth, i wneuthur cymod dros Israel; a thuag at holl waith tŷ ein Duw.

34A ni a fwriasom goelbrennau yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r bobl, am Pen 13:31goed yr offrwm, fel y dygent hwynt i dŷ ein Duw ni, yn ôl tai ein tadau ni, ar amserau nodedig, o flwyddyn i flwyddyn, i’w llosgi ar allor yr Arglwydd ein Duw, Lef 6:12fel y mae yn ysgrifenedig yn y gyfraith:

35Ac Exod 23:19; 34:26; Lef 19:23i ddwyn blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth o bob ffrwyth o bob pren, o flwyddyn i flwyddyn, i dŷ yr Arglwydd:

36A’r rhai cyntaf‐anedig o’n meibion, ac o’n hanifeiliaid, fel y mae yn ysgrifenedig Exod 13:2, 12, 13; Lef 27:27; Num 18:15, 16yn y gyfraith, a chyntaf‐anedigion ein gwartheg a’n defaid, i’w dwyn i dŷ ein Duw, at yr offeiriaid sydd yn gwasanaethu yn nhŷ ein Duw ni.

37Lef 23:17; Num 15:19; 18:12, &c; Deut 18:4; 26:2A blaenion ein toes, a’n hoffrymau, a ffrwyth pob pren, gwin ac olew, a ddygem at yr offeiriaid i gelloedd tŷ ein Duw, a Lef 27:30; Num 18:21, &cdegwm ein tir i’r Lefiaid; fel y câi y Lefiaid hwythau ddegwm trwy holl ddinasoedd ein llafur ni.

38A bydd yr offeiriad, mab Aaron, gyda’r Lefiaid, Num 18:26pan fyddo’r Lefiaid yn degymu: a dyged y Lefiaid i fyny ddegfed ran y degwm i dŷ ein Duw ni, i’r celloedd yn y trysordy.

39Canys meibion Israel a meibion Lefi Deut 12:6, 11a ddygant offrwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, i’r ystafelloedd, lle y mae llestri’r cysegr, a’r offeiriaid sydd yn gweini, a’r porthorion, a’r cantorion; ac nac ymwrthodwn â thŷ ein Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help