Deuteronomium 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Annog i ufudd‐dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy.

1Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw.

2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, Pen 13:3gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.

3Ac efe a’th ddarostyngodd, ac Exod 16:3a oddefodd i ti newynu, ac a’th Exod 16:12, 14fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod Salm 104:29; Mat 4:4; Luc 4:4nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn.

4Pen 29:5; Neh 9:21Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.

52 Sam 7:14; Salm 89:32; Diar 3:12; Heb 12:5; Dat 3:19Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.

6A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.

7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, Pen 11:10, 11i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;

8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;

9Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad Pen 33:25yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.

10Pen 6:11, 12Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.

11Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:

12Pen 28:47; 32:15|DEU 32:15; Diar 30:9; Hos 13:6Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;

13A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt:

14Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;

15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, Num 21:6; Hos 13:5 lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; Num 20:11; Salm 78:15; 114:8yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;

16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â Exod 16:15manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

17Pen 9:4A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.

19Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir.

20Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help