Job 42 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Job yn ymroi i Dduw. 7 A Duw yn barnu achos Job yn oreu, ac yn peri i’w gyfeillion ymroi iddo, ac yn ei dderbyn ef yn gymeradwy, 10 ac yn ei fawrhau, ac yn ei fendithio. 16 Oedran a marwolaeth Job.

1A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

2Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.

3Pen 38:2Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; Salm 40:5; 131:1; 139:6

pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn.

4Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: Pen 38:3; 40:7gofynnaf i ti, dysg dithau finnau.

5Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di.

6Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.

7Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job.

8Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac Mat 5:24ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.

9Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt. A’r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job.

10Yna yr Salm 14:7; 126:1

Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn Esa 40:2ddauddyblyg.

11Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur.

12Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod.

13Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched.

14Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc.

15Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr.

16A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth.

17Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help