1Felly y gorffennwyd y nefoedd a’r ddaear, luniasai y dyn bedwar pen.
11Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur:
12Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics.
13Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates.
15A’r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi.
16A’r Arglwydd Dduw a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta:
17Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.
18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Nid da bod y dyn ei hunan; gwnaf iddo ymgeledd cymwys iddo.
19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymwys iddo.
21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drymgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymerodd un o’i asennau ef, ac a gaeodd gig yn ei lle hi.
22A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.
23Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o ŵr y 1 Cor 11:8cymerwyd hi.
24Mat 19:5; Marc 10:7; 1 Cor 6:16; Eff 5:31Oherwydd hyn yr ymedy gŵr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
25Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
