Galatiaid 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 58. —1 Y mae yn dangos pa bryd yr aeth efe i fyny i Jerwsalem, ac i ba beth; 3 ac nad enwaedasid ar Titus; 11 a gwrthwynebu ohono ef Pedr. 14 Paham y mae efe ac eraill, a hwythau yn Iddewon, yn credu y cânt eu cyfiawnhau yng Nghrist trwy ffydd, ac nid trwy weithredoedd; 20 ac na bo iddynt hwy, y rhai a gyfiawnhawyd felly, fyw mewn pechod.

1Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.

2Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi:

7Eithr yn y gwrthwyneb, Act 13:46; Rhuf 11:13; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:

8(Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, Act 9:15; 13:2; 22:21; Pen 1:16a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)

9A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod Mat 16:18yn golofnau, Rhuf 1:5; 12:3; 15:15; Eff 3:8y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

10Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; Act 24:17yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.

11A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio.

12Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, Act 10:28; 11:3efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad.

13A’r Iddewon eraill hefyd a gyd‐ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy.

14Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at Ad. 5wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr 1 Tim 5:20yn eu gŵydd hwy oll, Act 10:28Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

15Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Act 10:28Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd Eff 2:3, 12yn bechaduriaid,

16Act 13:38Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond Rhuf 1:17; 3:22, 28; 8:3; Heb 7:18, 19trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid Salm 143:2; Rhuf 3:20; Pen 3:11ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

17Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd 1 Ioan 3:8, 9yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

18Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.

19Canys yr wyf fi Pen 5:1trwy’r ddeddf Rhuf 6:14; 7:4, 6wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn Rhuf 6:11; 2 Cor 5:15; 1 Thess 5:10; 1 Pedr 4:2fyw i Dduw.

20Mi Rhuf 6:6; Pen 5:24a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, Pen 1:4; Eff 5:2; Titus 2:14yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.

21Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys Heb 7:11os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help