1Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau.
2Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau.
3O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur.
4ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau.
7Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat.
8Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion:
9rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd.
14Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn.
15Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely;
16Yna cholli trwy y cleddyf.
19Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled:
20blasus.
21Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen.
22Nesáu y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr.
23Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb:
24Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn.
25Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid.
26Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder.
27Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi;
28Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni.
29Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn,
30Salm 56:13I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw.
31Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf.
32Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di.
33Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.