Exodus 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Cysegru y cyntaf‐anedig i Dduw. 3 Gorchymyn cadw coffadwriaeth o’r Pasg. 11 Neilltuo y cyntaf o’r anifeiliaid. 17 Yr Israeliaid wrth fyned allan o’r Aifft yn dwyn esgyrn Joseff gyda hwynt. 20 Yn dyfod i Etham. 21 Duw yn eu harwain mewn colofn o niwl a cholofn o dân.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd.

4Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o’th feibion ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed.

15A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o’m meibion a brynaf.

16A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft.

17A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel, a yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

19A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Gen 50:25; Jos 24:32; Act 7:16

Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

20A Num 33:6hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch.

21A’r Pen 40:38; Num 9:15; 10:34; 14:14; Deut 1:33; Neh 9:12, 19; Salm 78:14; 99:7; 105:39; 1 Cor 10:1

Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos.

22Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help