1Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd‐nesawn i farn.
2Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed.
4Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr Arglwydd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.
8Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.
12Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.
13Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf.
14Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a’th Waredydd, Sanct Israel.
15Wele, ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.
16Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi.
17Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr Arglwydd a’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt.
18yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw.
23Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi.
25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd.
26Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion.
27Y cyntaf a ddywed wrth Seion, Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem.
28Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair.
29Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwynt a gwagedd yw eu tawdd‐ddelwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.