Ruth 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Ruth yn lloffa ym meysydd Boas. 4 Boas yn cymryd cydnabod arni, 8 ac yn dangos iddi garedigrwydd mawr; 18 a hithau yn dwyn at Naomi yr hyn a gawsai.

1Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas.

2A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.

3A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.

4Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr Arglwydd a’th fendithio.

5Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon?

6A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab:

7A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ.

8Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda’m llancesau i.

9Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau.

10Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes?

11A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.

12Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, feiwch arni:

16A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi.

17Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.

18A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon.

19A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas.

20A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, o’n cyfathrach ni y mae efe.

21A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i.

22A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall.

23Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help