Salm 45 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 451 Mawrhydi a rhad brenhiniaeth Crist. 10 Dyletswydd yr eglwys, a’r budd sydd o hynny.I’r Pencerdd Maschil, Cân cariadau.

1 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.

2Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.

3Gwregysa dy marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.

5Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.

6 Salm 93:2; Heb 1:8 Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.

7 Salm 33:5 Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Esa 61:1 Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.

8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.

9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: Edrych 1 Bren 2:19safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.

10Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac Edrych Deut 21:13anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.

11A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys Salm 95:6; Esa 54:5efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.

12Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; Salm 22:29; 72:10; Esa 49:23 a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.

13 Dat 19:7, 8 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.

14 Can 1:4 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.

15Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.

16Dy feibion fydd yn lle dy dadau, 1 Pedr 2:9; Dat 1:6; 5:10; 20:6y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.

17Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help