1Yna Joseff ni allodd ymatal gerbron y rhai oll oedd yn sefyll gydag ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gydag ef, pan ymgydnabu Joseff â’i frodyr.
2Ac efe a gododd ei lef mewn wylofain: a chlybu’r Eifftiaid, a chlybu tŷ Pharo.
3A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared.
8Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.
9Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda:
10A gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd.
22I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad.
23Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.
24Yna y gollyngodd ymaith ei frodyr: a hwy a aethant ymaith: ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Nac ymrysonwch ar y ffordd.
25Felly yr aethant i fyny o’r Aifft, ac a ddaethant i wlad Canaan, at eu tad Jacob;
26Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
27Traethasant hefyd iddo ef holl eiriau Joseff, y rhai a ddywedasai efe wrthynt hwy. A phan ganfu efe y cerbydau a anfonasai Joseff i’w ddwyn ef, yna y bywiogodd ysbryd Jacob eu tad hwynt.
28A dywedodd Israel, Digon ydyw; y mae Joseff fy mab eto yn fyw: af, fel y gwelwyf ef cyn fy marw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.