1Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw.
2Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw.
3I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
4Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
5Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
6Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid.
8Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9peri i ni amau? os tydi yw’r Crist, dywed i ni yn eglur.
25Yr Iesu a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu. Pen 10:38; Ioan 5:36Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hynny yn tystiolaethu amdanaf fi.
26Ond Pen 8:47chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o’m defaid i, fel y dywedais i chwi.
27Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i; a mi a’u hadwaen hwynt, a hwy a’m canlynant i:
28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac Pen 6:37; 17:11, 12; 18:9ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.
29Pen 14:28Fy Nhad i, yr hwn a’u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb: ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
30Pen 17:11, 22Myfi a’r Tad un ydym.
31Am hynny Pen 8:59y cododd yr Iddewon gerrig drachefn i’w labyddio ef.
32Yr Iesu a atebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba un o’r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, Pen 5:18yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34Yr Iesu a atebodd iddynt, Salm 82:6Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi a ddywedais, Duwiau ydych?
35Os galwodd efe hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, (a’r ysgrythur nis gellir ei thorri;)
36A ddywedwch chwi am yr hwn Pen 6:27a sancteiddiodd y Tad, ac a’i hanfonodd i’r byd, Yr wyt ti yn cablu; Pen 5:17, 18am i mi ddywedyd, Luc 1:35Mab Duw ydwyf?
37Pen 15:24Onid wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch i mi:
38Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, Pen 5:36; 14:10credwch y gweithredoedd; fel y gwybyddoch ac y credoch, Pen 14:11; 17:21 fod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
39Pen 7:30, 44; 8:59Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddihangodd allan o’u dwylo hwynt.
40Ac efe a aeth ymaith drachefn dros yr Iorddonen, i’r man Pen 1:28lle y buasai Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
41A llawer a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un arwydd: Pen 3:30ond yr holl bethau a’r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wir.
42A llawer yno a gredasant ynddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.