Exodus 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Yr Israeliaid yn dyfod i Sin; 2 ac yn tuchan o eisiau bara. 4 Duw yn addo iddynt fara o’r nefoedd. 11 Danfon soflieir, 14 a manna. 16 Trefn y manna. 25 Na cheid ef ar y dydd Saboth. 32 Cadw llond omer ohono ef.

1A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll.

17A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai.

18A phan fesurasant wrth yr omer, 2 Cor 8:15nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta.

19A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore.

20Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt.

21A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.

22Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae Gen 2:3gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore.

24A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo.

25A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw.

26Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.

27Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim.

28A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau?

29Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd.

30Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd.

31A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac Num 11:7yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.

32A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft.

33A Moses a ddywedodd wrth Aaron, 1 Bren 8:9; Heb 9:4Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau.

34Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth.

35A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, Jos 5:12; Neh 9:15nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan.

36A’r omer ydoedd ddegfed ran effa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help