Esther 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dyrchafiad Mordecai. 3 Esther yn eiriol am alw llythyrau Haman yn eu hôl. 7 Ahasferus yn rhoi cennad i’r Iddewon i’w hamddiffyn eu hun. 15 Anrhydedd Mordecai, a llawenydd yr Iddewon.

1Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha’r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin.

6Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?

7A’r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew, Wele, tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a’i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.

8Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.

14Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a’r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.

15A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a Edrych pen 3:15dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:

16I’r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.

17Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a’i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help