1Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi gysegri Aaron a’i feibion.
10A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor.
14Ond â’i ben.
18A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
19A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd.
20Yna lladd yr hwrdd, a chymer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella’r gwaed arall ar yr allor o amgylch.
21A chymer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd.
25A chymer hwynt o’u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
26Cymer hefyd Lef 8:29barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; a’th ran di fydd.
27A sancteiddia Lef 7:34; Num 18:18; Deut 18:3barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion.
28Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac Lef 7:34offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd.
29A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ôl ef, i’w heneinio ynddynt, ac i’w cysegru ynddynt.
30Num 20:28Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a’u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.
31A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd.
32A bwytaed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd, Lef 8:31; Mat 12:4a’r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
33A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i’w cysegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt.
34Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o’r bara, hyd y bore; yna ti a losgi’r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw.
35A gwna fel hyn i Aaron, ac i’w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt.
36A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i’w chysegru.
37Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly Pen 40:10yr allor fydd sanctaidd: Pen 30:29; Mat 23:19pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
38A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Num 28:3Dau oen blwyddiaid, Edrych Dan 9:27; 12:11bob dydd yn wastadol.
39Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a’r ail oen a offrymi di yn y cyfnos.
40A chyda’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm.
41A’r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i’w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:
42Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; Pen 30:36lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno.
43Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant.
44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45A Pen 25:8; Lef 26:12; Sech 2:10; 2 Cor 6:16; Dat 21:3mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.
46A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr Arglwydd eu Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.