1 Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.
4A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd.
5A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.
6A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen.
7Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy.
8Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.
9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant rwydwaith.
10A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.
11Diau ynfydion yw tywysogion phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.
14Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.
15Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.
19Y dydd hwnnw Gen 28:18; Exod 24:4; Jos 22:10, 27y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi.
20Edrych Jos 4:20; 22:27Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt.
21A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: Mal 1:11gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac a’i talant.
22Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.
23A’r dydd hwnnw Pen 11:16y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant.
24Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir:
25Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria Salm 100:3; Pen 29:23; Eff 2:10gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.