1Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finnau hefyd.
2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i baratoi lle i chwi.
3Ac amddifaid: Pen 14:3, 28mi a ddeuaf atoch chwi.
19Eto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy; eithr Pen 16:16chwi a’m gwelwch: canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.
20Y dydd hwnnw y gwybyddwch Ad. 10 Ioan 10:38; 17:21, 23, 26fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau.
21Ad. 15; 1 Ioan 2:5; 5:3Yr hwn sydd â’m gorchmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fy ngharu i: a’r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minnau a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hun iddo.
22Dywedodd Jwdas wrtho, (nid yr Iscariot,) Arglwydd, pa beth yw’r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i’r byd?
23Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ad. 15Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a’m Tad a’i câr yntau, a 1 Ioan 2:24; Dat 3:20nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef.
24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: Ad. 10 Ioan 5:19, 38a’r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo’r Tad a’m hanfonodd i.
25Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyda chwi.
26Eithr Ad. 16y Diddanydd, yr Ysbryd Glân, yr hwn a enfyn y Tad yn fy enw i, efe Pen 12:16; 16:13; 1 Ioan 2:20, 27a ddysg i chwi’r holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi’r holl bethau a ddywedais i chwi.
27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac nac ofned.
28Clywsoch fel Pen 14:3, 18y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac mi a ddeuaf atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tad: canys y mae Edrych Ioan 5:18; Phil 2:6fy Nhad yn fwy na myfi.
29Ac Pen 13:19yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch.
30Nid ymddiddanaf â chwi nemor bellach: Pen 12:31canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynof fi.
31Ond fel y gwypo’r byd fy mod i yn caru’r Tad, ac Pen 10:18megis y gorchmynnodd y Tad i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi yma.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.