Eseia 42 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Swydd Crist, ynghyd â’i larieidd‐dra a’i ddianwadalwch. 5 Addewid Duw iddo ef. 10 Y mae yn annog i foliannu Duw am ei efengyl: 17 ac yn beio’r bobl am eu hanghrediniaeth.

1Wele mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd.

4Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.

5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion.

11Y diffeithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.

12Rhoddant ogoniant i’r Arglwydd, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.

13Yr Arglwydd a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion.

14Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.

15Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf.

16Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.

17 hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.

23Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?

24Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr Arglwydd, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith.

25Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help