Salm 6 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 61 Achwynion Dafydd yn ei glefyd. 8 Y mae efe trwy ffydd yn gorfoleddu ar ei elynion.I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

1 Arglwydd, Salm 38:1; Jer 10:24; 46:28na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid.

2Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.

3A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd?

4Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd.

5 Salm 30:9; 88:11; 115:17; 118:17; Esa 38:18 Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna?

6Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.

7 Job 17:7; Salm 31:9; 38:10; 88:9; Galar 5:17 Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion.

8 Salm 119:115; Mat 7:23; 25:41; Luc 13:27 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.

9Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.

10Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help