1Ac yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd.
2Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?
26Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid Marc 4:22; Luc 8:17; 12:2nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir.
27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai.
28Luc 12:4Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern.
29Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi.
301 Sam 14:45; 2 Sam 14:11; Luc 21:18; Act 27:34Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.
31Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to.
32Luc 12:8; Rhuf 10:9, 10Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, Dat 3:5minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd:
33Marc 8:38; Luc 9:26; 2 Tim 2:12A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
34Luc 12:49, 51Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf.
35Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio Micha 7:6yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.
36A Salm 41:9; 55:13; Micha 7:6; Ioan 13:18gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun.
37Luc 14:26Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi.
38Pen 16:24; Marc 8:34; Luc 9:23; 14:27A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi.
39Luc 17:33; Ioan 12:25Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
40 Pen 18:5 ; Luc 10:16; Ioan 13:20; Gal 4:14Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.
411 Bren 17:10; 18:4; 2 Bren 4:8Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn.
42Pen 18:5, 6; 25:40; Marc 9:41; Heb 6:10A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.