Jeremeia 42 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Johanan yn erfyn ar Jeremeia ymofyn â Duw, ac yn addo bod yn ufudd i’w ewyllys ef. 7 Jeremeia yn dangos iddo y cai efe ddiogelwch yn Jwda, 13 a dinistr yn yr Aifft. 19 Y mae yn beio ar eu rhagrith hwy yn peri ymofyn â’r Arglwydd am yr hyn nid oedd yn eu bryd ei wneuthur.

1Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,

2Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)

3Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom.

4Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

17Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac eich rhybuddio chwi heddiw.

20Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw, a nyni a’i gwnawn.

21A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid.

22Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help