2 Corinthiaid 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 60. —1 Y mae yn dangos arferu ohono ef bob math ar burdeb a diwydrwydd ffyddlon wrth bregethu yr efengyl; 7 a bod y blinderau a’r erlid yr oedd efe beunydd yn eu dioddef o achos yr efengyl, er moliant i allu Duw, 12 a llesâd i’r eglwys, 16 a gogoniant tragwyddol yntau.

1Am hynny gan fod i ni y weinidogaeth hon, cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, Pen 2:17; 1 Thess 2:3, 5na thrin gair Duw yn dwyllodrus, eithr Pen 5:11trwy eglurhad y gwirionedd Pen 6:4yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bob cydwybod dynion yng ngolwg Duw.

3Ac os cuddiedig yw ein hefengyl ni, 1 Cor 1:18; Pen 2:15; 2 Thess 2:10yn y rhai colledig y mae yn guddiedig:

4Yn y rhai y Esa 6:10dallodd Ioan 12:31; 14:30duw’r byd hwn feddyliau y rhai di‐gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl Pen 3:18gogoniant Crist, Ioan 1:18; 12:45; 14:9; Phil 2:6; Col 1:15; Heb 1:3yr hwn yw delw Duw.

5Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Crist Iesu yr Arglwydd; a Pen 1:24ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu.

6Canys Duw, Gen 1:3yr hwn a orchmynnodd i’r goleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a 2 Pedr 1:19lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.

7Eithr y mae gennym y trysor hwn mewn Pen 5:1llestri pridd, 1 Cor 2:5fel y byddai godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid ohonom ni.

8Ym mhob peth yr ŷm yn gystuddiol, ond nid mewn ing; yr ydym mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith;

9Yn cael ein herlid, ond heb ein llwyr adael; Salm 37:24yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha;

10Gan gylcharwain yn y corff bob amser Pen 1:5farweiddiad yr Arglwydd Iesu, Rhuf 8:17; 2 Tim 2:11, 12; 1 Pedr 4:13fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein corff ni.

11Canys Salm 44:22; 1 Cor 15:31, 49yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12Felly Pen 13:9y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.

13A chan fod gennym Rhuf 1:12; 2 Pedr 1:1yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Salm 116:10Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

14Gan wybod y bydd Rhuf 8:11; 1 Cor 6:14i’r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a’n gosod gerbron gyda chwi.

15Canys Pen 1:6; Col 1:24; 2 Tim 2:10pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel Pen 1:11y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.

16Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny Rhuf 7:22; Eff 3:16; Col 3:10; 1 Pedr 3:4y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17Canys Rhuf 8:18; 1 Pedr 1:6; 5:10ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni;

18Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help