Sechareia 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Ffynnon i lanhau Jerusalem 2 oddi wrth ddelw‐addoliaeth a gau‐broffwydoliaeth. 7 Marwolaeth Crist, a phrofi y drydedd ran.

1Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

2A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi grys o rawn i dwyllo:

5Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid.

6A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.

7Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr Ioan 10:30; 14:10, 11; Phil 2:6 sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: Mat 26:31; Marc 14:27taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain.

8A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo.

9A dygaf drydedd ran trwy y tân, a 1 Pedr 1:6, 7phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: Salm 50:15; 91:15hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Salm 144:15Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help