1Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.
5A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef.
7Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall.
8Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti.
9Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn.
13Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef.
14A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.
15Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef.
16A phan ddaeth Husai yr Arciad, Pen 15:37cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin.
17Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill?
18A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi.
19A phwy hefyd Pen 15:34a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau.
20Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni.
21Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi.
22Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom Pen 12:11, 12a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel.
23A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.