Josua 18 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gosod y tabernacl i fyny yn Seilo. 9 Dosbarthu y rhan arall o’r tir, a’i gyfrannu yn saith ran. 10 Josua yn ei rannu wrth goelbren. 11 Rhandir a therfyn Benjamin: 21 eu dinasoedd.

1A holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.

2A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto.

3A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?

4Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn.

5A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd.

6A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.

7Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.

8A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo.

9A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.

10A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.

12A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen.

13Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, i Araba.

19Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua’r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau.

20Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

21A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis,

22A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel,

23Ac Afim, a Phara, ac Offra,

24A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd:

25Gibeon, a Rama, a Beeroth,

26A Mispe, a Cheffira, a Mosa,

27A Recem, ac Irpeel, a Tharala,

28A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help