Jeremeia 44 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jeremeia yn adrodd dinistr Jwda am eu delw‐addoliaeth; 11 yn proffwydo dinistr y rhai a wnânt ddelw‐addoliaeth yn yr Aifft. 15 Gwrthnysigrwydd yr Iddewon; 20 a Jeremeia yn eu bygwth hwy o’i herwydd, 29 ac, yn lle arwydd, yn proffwydo dinistr yr Aifft.

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt:

3O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau.

4Er i mi allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill?

8Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear.

9A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

10Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

11Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhinoedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg.

18Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni.

19ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.

29A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr Arglwydd, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed.

30Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help