Barnwyr 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Israel yn llaw y Philistiaid. 2 Angel yn ymddangos i wraig Manoa; 8 ac wedi hynny i Manoa. 15 Offrwm Manoa, ac adnabod yr angel. 24 Genedigaeth Samson.

1A meibion Israel a chwanegasant Pa fodd y trinwn y bachgen, ac y gwnawn iddo ef?

13Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Rhag yr hyn oll a ddywedais wrth y wraig, ymocheled hi.

14Na fwytaed o ddim a ddêl allan o’r winwydden, nac yfed win na diod gadarn, ac na fwytaed ddim aflan: cadwed yr hyn oll a orchmynnais iddi.

15A dywedodd Manoa wrth angel yr Arglwydd, Gen 18:5; Pen 6:18Gad, atolwg, i ni dy atal, tra y paratôm fyn gafr ger dy fron di.

16Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Manoa, Ped atelit fi, ni fwytawn o’th fara di: os gwnei boethoffrwm, gwna ef i’r Arglwydd. Canys ni wyddai Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.

17A Manoa a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Beth yw dy enw, fel y’th anrhydeddom di pan ddelo dy eiriau i ben?

18Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gen 32:29Paham yr ymofynni am fy enw, gan ei fod Esa 9:6yn rhyfeddol?

19Felly Manoa a gymerth fyn gafr, a bwyd‐offrwm, ac a’i hoffrymodd ar y graig i’r Arglwydd. A’r angel a wnaeth yn rhyfedd: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych.

20Canys, pan ddyrchafodd y fflam oddi ar yr allor tua’r nefoedd, yna angel yr Arglwydd a ddyrchafodd yn fflam yr allor: a Manoa a’i wraig oedd yn edrych ar hynny, ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau.

21(Ond ni chwanegodd angel yr Arglwydd ymddangos mwyach i Manoa, nac i’w wraig.) Yna y gwybu Manoa mai angel yr Arglwydd oedd efe.

22A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Exod 33:20; Deut 5:26; Pen 6:22Gan farw y byddwn feirw; canys gwelsom Dduw.

23Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o’n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24A’r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Heb 11:32Samson. A’r bachgen a gynyddodd; a’r Arglwydd a’i bendithiodd ef.

25Ac 1 Sam 11:6ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help