Salm 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 131 Dafydd yn cwyno bod yn oedi ei ymwared ef: 3 yn gweddïo am ras i’w ragflaenu: 5 yn ymffrostio yn nhrugaredd Duw.I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd Deut 31:17; Job 13:24; Salm 44:24; 89:46y cuddi dy wyneb rhagof?

2Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?

3Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, Jer 51:39rhag i mi huno yn yr angau:

4 Salm 25:2 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf.

5Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth:

6canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help