1 Salm 33:3; 96:1; Esa 42:10 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: Esa 59:16; 63:5ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
2 Esa 52:10 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.
3Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
4Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
5Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm.
6Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.
7 Salm 96:11 &c Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
8Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd
9O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
