Jeremeia 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Trwy arwydd y gwregys lliain a guddiwyd yn Ewffrates, y mae Duw yn rhag‐ddangos dinistr ei bobl. 12 Trwy ddameg costrelau a lenwid â gwin, yn rhagfynegi y meddwid hwy â drygfyd. 15 Y mae yn eu hannog i ochel y barnedigaethau sydd ar ddyfod; 22 ac yn dangos mai eu ffieidd‐dra hwy oedd yr achos o hynny.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Dos a chais i ti wregys lliain, a dod ef am dy lwynau, ac na ddod ef mewn dwfr.

2Felly y ceisiais wregys yn ôl gair yr Arglwydd, ac a’i dodais am fy llwynau.

3A daeth gair yr Arglwydd ataf eilwaith, gan ddywedyd,

4Cymer y gwregys a gefaist, ac sydd am dy lwynau, a chyfod, dos i Ewffrates, a chuddia ef mewn twll o’r graig.

5Felly mi a euthum, ac a’i cuddiais ef yn Ewffrates, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i mi.

6Ac ar ôl dyddiau lawer y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys a orchmynnais i ti ei guddio yno.

7Yna yr euthum i Ewffrates, ac a gloddiais, ac a gymerais y gwregys o’r man lle y cuddiaswn ef: ac wele, pydrasai y gwregys, ac nid oedd efe dda i ddim.

8A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

9Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Felly y gwnaf i falchder Jwda, a mawr falchder Jerwsalem bydru.

10Y bobl ddrygionus hyn, y rhai a wrthodant wrando fy ngeiriau i, y rhai a rodiant yng nghyndynrwydd eu calon, ac a ânt ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymostwng iddynt, a fyddant fel y gwregys yma, yr hwn nid yw dda i ddim.

11Canys megis ag yr ymwasg gwregys am lwynau gŵr, felly y gwneuthum i holl dŷ Israel a holl dŷ Jwda lynu wrthyf, medd yr Arglwydd, i fod i mi yn bobl, ac yn enw, ac yn foliant, ac yn ogoniant: ond ni wrandawent.

12Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma: Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Pob costrel a lenwir â gwin. A dywedant wrthyt ti, Oni wyddom ni yn sicr y llenwir pob costrel â gwin?

13Yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn llenwi holl drigolion y tir hwn, ie, y brenhinoedd sydd yn eistedd yn lle Dafydd ar ei orseddfainc ef, yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a holl breswylwyr Jerwsalem, y naill wrth y llall, y tadau a’r meibion ynghyd, medd yr Arglwydd: nid arbedaf, ac ni thrugarhaf, ac ni resynaf, ond eu difetha hwynt.

15Clywch, a gwrandewch; na falchïwch: canys yr Arglwydd a lefarodd.

16pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.

19Dinasoedd y deau a gaeir, ac ni bydd a’u hagoro; Jwda i gyd a gaethgludir, yn llwyr y dygir hi i gaethiwed.

20Codwch i fyny eich llygaid, a gwelwch y rhai sydd yn dyfod o’r gogledd: pa le y mae y ddiadell a roddwyd i ti, sef dy ddiadell brydferth?

21Beth a ddywedi pan ymwelo â thi? canys ti a’u dysgaist hwynt yn dywysogion, ac yn ben arnat: oni dinoethwyd dy sodlau.

23A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.

24Am hynny y chwalaf hwynt megis sofl yn myned ymaith gyda gwynt y diffeithwch.

25Dyma dy gyfran di, y rhan a fesurais i ti, medd yr Arglwydd; am i ti fy anghofio i, ac ymddiried mewn celwydd.

26Am hynny pa bryd bellach?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help