1Fy enaid, Salm 104:1; 146:1bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef.
2Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef:
3 Salm 130:8; Mat 9:2, 6; Marc 2:11; Luc 7:47 Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd:
4Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr Salm 5:12hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi:
5Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; Esa 40:31 fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr.
6 Salm 146:7 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll.
7 Salm 147:19 Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel.
8 Exod 34:6, 7; Num 14:18; Deut 5:10; Neh 9:17; Salm 86:15; Jer 32:18 Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.
9 Salm 30:5; Esa 57:16; Jer 3:5; Micha 7:18 Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint.
10 Esra 9:13 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni.
11Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
12Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
13 Mal 3:17 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef.
14Canys efe a edwyn ein defnydd ni: Salm 78:39cofia mai llwch ydym.
15 Salm 90:5 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: Job 14:1, 2; Iago 1:10, 11megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
16Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; Job 7:10; 20:9a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.
17Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder Exod 20:6; Deut 7:9i blant eu plant;
18I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.
19Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.
20 Salm 148:2 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion ef, Edrych Salm 78:25cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
21Bendithiwch yr Arglwydd, Heb 1:14ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
22Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.