Jeremeia 33 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn addo i’r gaethglud rasusol ddychweliad, 9 a llawen gyflwr, 12 a llywodraeth ddiysgog, 15 a Christ, Blaguryn cyfiawnder; 17 y parhâi eu brenhiniaeth a’u hoffeiriadaeth; 20 a sicrwydd o had bendigedig.

1Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto chedyrn, y rhai nis gwyddost.

4Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf;

5Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt.

6Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd.

7A Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel.

18Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

19A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

20Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Esa 54:9; Pen 31:36Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser;

21Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion.

22Gen 13:16; 15:5; 22:17; Pen 31:37Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.

23Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

24Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.

25Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear:

26Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys ad. 7, 11mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help