1A dywedodd Dafydd, Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei ddyddiau ef.
10nhlodi y paratoais i dŷ yr Arglwydd gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, ad. 3nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i; ychwanega dithau atynt hwy.
15Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith.
16Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ad. 11 Arglwydd a fydd gyda thi.
17A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd,
18Onid yw yr Arglwydd eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddarostyngwyd o flaen yr Arglwydd, ac o flaen ei bobl ef.
19Yn awr rhoddwch eich calon a’ch enaid i geisio yr Arglwydd eich Duw; cyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr Arglwydd Dduw, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
