1A Besaleel a wnaeth ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi.
9A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10Ac efe a wnaeth gau â hwynt, o aur pur.
17Ac efe a wnaeth Pen 25:31ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un.
18A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall.
19Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren.
20Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau.
21A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono.
22Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth.
23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur.
24O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.
25 Pen 30:1 Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un.
26Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt.
28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.
29Ac efe a wnaeth Pen 30:23, 34olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.