Salm 136 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 136Y mae yn annog i foliannu Duw am ei drugareddau neilltuol.

1 lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

9Y lleuad a’r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10 Exod 12:29 Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

11 Exod 12:51; 13:17 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

12 Exod 6:6 A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13 Exod 14:21, 22; Salm 78:13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15 Exod 14:27 Ac a ysgytiodd Pharo a’i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16 Exod 15:22 Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17 Salm 135:10, 11 Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

18 Deut 29:7 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

19 Num 21:21 Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

20 Num 21:33 Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

21 Jos 12:1, &c; Salm 135:12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

22Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23Yr hwn yn ein hiselradd a’n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

24Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

25 Salm 104:27; 145:15; 147:9 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

26Clodforwch Dduw y nefoedd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help