1A Dafydd a ymgynghorodd â chapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac â’r holl dywysogion.
2A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a bod hyn o’r Arglwydd ein Duw, danfonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pentrefol, i’w cynnull hwynt atom ni.
3A dygwn drachefn arch ein Duw atom ni; canys nid ymofynasom â hi yn nyddiau Saul.
4A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl.
5Felly ddygasant arch Duw Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd hi.
10Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, Peres‐ussa, hyd y dydd hwn.
12A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi?
13Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i cludodd hi i dŷ Obed‐edom y Gethiad.
14Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obed‐edom, yn ei dŷ ef, dri mis. A’r Arglwydd a fendithiodd Fel pen 26:5dŷ Obed‐edom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
