1Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2Pen 11:24, 28, 31, 39Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
3Neu pan gyffyrddo Pen 12; 13; 15ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.
4Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar Edrych 1 Sam 25:22; Act 23:12wneuthur drwg, neu Edrych Marc 6:23wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
5A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna Num 5:7cyffesed yr hyn y pechodd ynddo:
6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.
7Ond Pen 12:8; 14:21os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy Pen 1:14durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boethoffrwm.
8A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, Pen 1:15a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.
9A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a Pen 4:7, 18, 30, 34gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.
10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl Pen 1:14y ddefod: a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: Num 5:15na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
12A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law Pen 2:2yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, Pen 4:35fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
13A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: Pen 2:3a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd‐offrwm.
14A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
15Pen 22:14Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl Exod 30:13sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.
16A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a Pen 22:14; 27:13, 15, 27; Num 5:7rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17Ac os pecha Pen 4:2enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.
18A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
19Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.