Exodus 6 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duw yn adnewyddu ei addewid, trwy ei enw JEHOFAH. 14 Achau Reuben, 15 Simeon, 16 a Lefi, o’r hwn y daeth Moses ac Aaron.

1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys JEHOFAH.

3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw y Gen 15:18; 26:3; 35:12tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.

9A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled.

10A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

11Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad.

12A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo, a minnau Pen 4:10; ad. 30yn ddienwaededig o wefusau?

13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.

14Dyma eu pencenedl hwynt: Gen 46:9; 1 Cron 5:3meibion Reuben, y cyntaf‐anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben.

15A 1 Cron 4:24meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.

16Dyma hefyd enwau Num 3:17; 1 Cron 6:1, 16meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain.

171 Cron 6:17; 23:7Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd.

18A Num 26:57; 1 Cron 6:2, 18meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd.

191 Cron 6:19; 23:21Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau.

20Ac Pen 2:1; Num 26:59Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.

21A Num 16:1; 1 Cron 6:37, 38meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri.

22A Lef 10:4; Num 3:30meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri.

23Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch Ruth 4:19, 20; 1 Cron 2:10Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Num 3:2; 26:60; 1 Cron 6:3; 24:1Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

24Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid.

25Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a Num 25:11hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd.

26Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd.

27Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.

28A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft,

29Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt.

30A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd, Wele fi Pen 4:10yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help