1 Samuel 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Saul, wedi i’r Siffiaid ddatguddio Dafydd, yn dyfod i Hachila yn ei erbyn ef. 5 Dafydd yn dyfod i’r wersyllfa ac yn rhwystro i Abisai ladd Saul: eto yn cymryd ei waywffon ef a’i ddwfr‐lestr. 13 Dafydd yn ceryddu Abner; 18 ac yn cynghori Saul. 21 Saul yn cydnabod ei fai.

1A’r y diffeithwch?

2Yna y cyfododd Saul, ac a aeth i waered i anialwch Siff, a thair mil o etholedigion gwŷr Israel gydag ef, i geisio Dafydd yn anialwch Siff.

3A Saul a wersyllodd ym mryn Hachila, yr hwn sydd ar gyfer y diffeithwch, wrth y ffordd: a Dafydd oedd yn aros yn yr anialwch; ac efe a welodd fod Saul yn dyfod ar ei ôl ef i’r anialwch.

4Am hynny Dafydd a anfonodd ysbïwyr, ac a wybu ddyfod o Saul yn sicr.

5A Dafydd a gyfododd, ac a ddaeth i’r lle y gwersyllasai Saul ynddo: a chanfu Dafydd y lle yr oedd Saul yn gorwedd ynddo, ac yn y wersyllfa, a’r bobl yn gwersyllu o’i amgylch ef.

6Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai roddes heddiw dy elyn yn dy law di: yn awr gan hynny gad i mi ei daro ef, atolwg, â gwaywffon, hyd y ddaear un waith, ac nis aildrawaf ef.

9A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifetha ef: canys pwy a estynnai ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai ddieuog?

10Dywedodd Dafydd hefyd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, naill ai yr Arglwydd a’i tery ef; ai ei ddydd ef a ddaw i farw; ai efe a ddisgyn i’r rhyfel, ac a ddifethir.

11Pen 24:6Yr Arglwydd a’m cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd: ond yn awr, cymer, atolwg, y waywffon sydd wrth ei obennydd ef, a’r llestr dwfr, ac awn ymaith.

12A Dafydd a gymerth y waywffon, a’r llestr dwfr oddi wrth obennydd Saul; a hwy a aethant ymaith; ac nid oedd neb yn gweled, nac yn gwybod, nac yn neffro: canys yr oeddynt oll yn cysgu; oherwydd trymgwsg oddi wrth yr Arglwydd a syrthiasai arnynt hwy.

13Yna Dafydd a aeth i’r tu hwnt, ac a safodd ar ben y mynydd o hirbell; ac encyd fawr rhyngddynt;

14A Dafydd a lefodd ar y bobl, ac ar Abner mab Ner, gan ddywedyd, Onid atebi di, Abner? Yna Abner a atebodd, ac a ddywedodd, Pwy ydwyt ti sydd yn llefain ar y brenin?

15A Dafydd a ddywedodd wrth Abner, Onid gŵr ydwyt ti? a phwy sydd fel ti yn Israel? a phaham na chedwaist dy arglwydd frenin? canys daeth un o’r bobl i ddifetha’r brenin dy arglwydd di.

16Nid da y peth hyn a wnaethost ti. Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, meibion euog o farwolaeth ydych chwi, am na chadwasoch eich meistr, eneiniog yr Arglwydd. Ac yn awr edrychwch pa le y mae gwaywffon y brenin, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obennydd ef.

17A Saul a adnabu lais Dafydd, ac a ddywedodd, Ai dy lais di yw hwn, fy mab Dafydd? A dywedodd Dafydd, Fy llais i ydyw, fy arglwydd frenin.

18Dywedodd hefyd, Paham y mae fy arglwydd fel hyn yn erlid ar ôl ei was? canys beth a wneuthum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw?

19Yn awr gan hynny, atolwg, gwrandawed fy arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr Arglwydd a’th anogodd di i’m herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melltigedig fyddant hwy gerbron yr Arglwydd; oherwydd hwy a’m gyrasant i allan heddiw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dieithr.

20Yn awr, gan hynny, na syrthied fy ngwaed i i’r ddaear o flaen wyneb yr Arglwydd: canys brenin Israel a ddaeth allan i geisio Pen 24:14chwannen, megis un yn hela petris yn y mynyddoedd.

21Yna Saul a ddywedodd, Pechais: dychwel, Dafydd fy mab: canys ni’th ddrygaf mwy; oherwydd gwerthfawr fu fy einioes i yn dy olwg di y dydd hwn: wele, ynfyd y gwneuthum, a mi a gyfeiliornais yn ddirfawr.

22A Dafydd a atebodd, ac a ddywedodd, Wele waywffon y brenin; deled un o’r llanciau drosodd, a chyrched hi.

23Yr Arglwydd a dalo i bob un ei gyfiawnder a’i ffyddlondeb: canys yr Arglwydd a’th roddodd di heddiw yn fy llaw i; ond nid estynnwn i fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd.

24Ac wele, megis y bu werthfawr dy einioes di heddiw yn fy ngolwg i, felly gwerthfawr fyddo fy einioes innau yng ngolwg yr Arglwydd, a gwareded fi o bob cyfyngdra.

25Yna y dywedodd Saul wrth Dafydd, Bendigedig fych di, fy mab Dafydd: hefyd ti a wnei fawredd, ac a orchfygi rhag llaw. A Dafydd a aeth i ffordd; a Saul a ddychwelodd i’w fangre ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help