1Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.
9A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
10A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.
11A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth‐gilead, a ffynna: canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin.
12A’r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o’r rhai hynny, a dywed y gorau.
13A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ddaioni i mi, ond drygioni?)
18Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy.
19A dywedodd yr Arglwydd, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth‐gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.
20Yna , Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly.
22Ac yn awr wele, yr o ystafell i ystafell i ymguddio.
25A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;
26A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.
27Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl.
28Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐gilead.
29A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i’r rhyfel.
30A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.
31A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a’r Arglwydd a’i cynorthwyodd ef, a Duw a’u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.
32A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelsant oddi ar ei ôl ef.
33A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig: am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r gad; canys fe’m clwyfwyd i.
34A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw; a brenin Israel a gynhelid yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid hyd yr hwyr: ac efe a fu farw ynghylch machludiad haul.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.