Genesis 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Abram a Lot yn dychwelyd o’r Aifft. 7 Trwy anghytundeb yn ymadael â’i gilydd. 10 Lot yn myned i Sodom ddrygionus. 14 Duw yn adnewyddu y cyfamod i Abram. 18 Yntau yn symud i Hebron, ac yn adeiladu allor yno.

1Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau.

2Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur.

3Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd Pen 12:8y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai;

4I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.

5Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll.

6Pen 36:7A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd.

7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: Pen 12:6y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad.

8Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd 13:8 Heb. gwŷr o frodyr. Edrych Pen 11:27; Exod 2:13; Act 7:26brodyr ydym ni.

9Pen 20:15; 34:10Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy.

10A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar.

11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd.

12Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom.

13A Pen 18:20; Esec 16:40dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.

14A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.

15Canys yr holl dir a weli, Pen 12:7; 15:18; 17:8; 24:7; 26:4; Deut 34:4; Act 7:5i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.

16Pen 15:5; 22:17; 26:4; 28:14; 32:12; Exod 32:13; Num 23:10; Deut 1:10; 1 Bren 4:20; 1 Cron 27:23; Esa 48:19; Jer 33:22; Heb 11:12Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.

17Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi.

18Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac Pen 14:13a drigodd yng ngwastadedd Mamre, Pen 35:27; 37:14yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help