Actau’r Apostolion 24 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 60. —1 Paul, wedi ei gyhuddo gan Tertwlus yr areithiwr, 10 yn ateb dros ei fuchedd a’i athrawiaeth: 24 yn pregethu Crist i’r rhaglaw a’i wraig. 26 Y rhaglaw yn gobeithio cael gwobr, eithr yn ofer: 27 ac o’r diwedd, wrth fyned allan o’i swydd, yn gadael Paul yng ngharchar.

1Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Pen 23:2Ananeias yr archoffeiriad i waered, a’r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul.

2Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,

3Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i’r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch.

4Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o’th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau.

5Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy’r byd, ac yn ben ar sect y Nasareniaid:

6Pen 21:28Yr hwn a amcanodd halogi’r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.

7Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a’i dug ef allan o’n dwylo ni,

8Ac a archodd i’w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o’r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9A’r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10A Phaul a atebodd, wedi i’r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i’r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.

11Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12Pen 25:8; 28:17Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i’r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:

13Ac ni allant brofi’r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o’u plegid.

14Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl Edrych Amos 8:14; Pen 9:2y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a’r proffwydi:

15A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae’r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, Dan 12:2; Ioan 5:28, 29y bydd atgyfodiad y meirw, i’r cyfiawnion ac i’r anghyfiawnion.

16Ac Pen 23:1yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, Pen 11:29, 30; 20:16; Rhuf 15:25; Gal 2:10y deuthum i wneuthur elusennau i’m cenedl, ac offrymau.

18Pen 21:26, 27Ar hynny rhai o’r Iddewon o Asia a’m cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.

19Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i’m herbyn.

20Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;

21Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Pen 23:6; 28:20Am atgyfodiad y meirw y’m bernir heddiw gennych.

22Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a’u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i’r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.

23Ac efe a archodd i’r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac Pen 27:3; 28:16na lesteiriai neb o’r eiddo ef i’w wasanaethu, nac i ddyfod ato.

24Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda’i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a’i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.

25Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a’r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.

26A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Pen 25:9, 14Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i’r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help