1Mab y tŵr yr adeiladodd efe lawer.
4Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.
5Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meibion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd.
6Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratôdd ei ffyrdd gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
7A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.
8Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
9A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
