Deuteronomium 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Moses yn annog y bobl i ufudd‐dod: 2 trwy eu gwybodaeth eu hunain o fawr weithredoedd Duw; 8 trwy addewid o fawr fendithion Duw, 16 a thrwy fygythion. 18 Bod yn rhaid myfyrio yn ofalus ar eiriau Duw. 26 Rhoddi y fendith a’r felltith o’u blaen hwynt.

1Câr dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth.

2A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig;

3Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir;

4A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel.

7Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.

8Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu:

9Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau:

11Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd;

12Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: 1 Bren 9:3llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.

13A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid;

14Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef Joel 2:23; Iago 5:7y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew;

15A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner.

16Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a Pen 8:19gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt;

17Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a 1 Bren 8:35chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.

18Am hynny Pen 6:6gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a Pen 6:8rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid:

19Pen 4:9, 10; 6:7A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych.

20Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;

21Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, Salm 72:5; 89:29fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.

22Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;

23Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.

24Jos 1:3; 14:9Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: Gen 15:18; Exod 23:31; Num 34:3o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.

25Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, Exod 23:27megis y llefarodd wrthych.

26 Pen 30:15 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith:

27Pen 28:2Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw;

28A Pen 28:15melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch

29Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot Pen 27:12, 13; Jos 8:33y fendith ar fynydd Garisim, a’r felltith ar fynydd Ebal.

30Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, Gen 12:6; Barn 7:1gerllaw gwastadedd More?

31Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo.

32Gwyliwch chwithau Pen 5:32am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help