1Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned.
2Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.
3Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei.
4 lawenychu.
9Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.
11Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster.
12Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.
13Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
