2 Samuel 9 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd, trwy law Siba, yn danfon am Meffiboseth; 7 ac, er mwyn Jonathan, yn ei dderbyn ef i’w fwrdd, ac yn adfer iddo gwbl ag oedd eiddo Saul; 9 ac yn gwneuthur Siba yn oruchwyliwr iddo ef.

1A Dafydd a ddywedodd, A oes eto un wedi ei adael o dŷ Saul, fel y gwnelwyf drugaredd ag ef, er mwyn Jonathan?

2Ac yr oedd gwas o dŷ Saul a’i enw Pen 16:1; 19:17, 29Siba. A hwy a’i galwasant ef at Dafydd. A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Ai tydi yw Siba? A dywedodd yntau, Dy was yw efe.

3A dywedodd y brenin, A oes neb eto o dŷ Saul, fel y gwnelwyf 1 Sam 20:14drugaredd Duw ag ef? A dywedodd Siba wrth y brenin, Y mae eto fab i Jonathan, Pen 4:4yn gloff o’i draed.

4A dywedodd y brenin wrtho, Pa le y mae efe? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele ef yn nhŷ Pen 17:27Machir, mab Ammiel, yn Lo‐debar.

5Yna y brenin Dafydd a anfonodd, ac a’i cyrchodd ef o dŷ Machir, mab Ammiel, o Lo‐debar.

6A phan ddaeth Meffiboseth mab Jonathan, mab Saul, at Dafydd, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd, Meffiboseth. Dywedodd yntau, Wele dy was.

7A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd â thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol.

8Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit ar 1 Sam 24:14gi marw o’m bath i?

9Yna y brenin a alwodd ar Siba gwas Saul, ac a ddywedodd wrtho, Edrych Pen 19:29Yr hyn oll oedd eiddo Saul, ac eiddo ei holl dŷ ef, a roddais i fab dy feistr di.

10A thi a erddi y tir iddo ef, ti, a’th feibion, a’th weision, ac a’u dygi i mewn, fel y byddo bara i fab dy feistr di, ac y bwytao efe: a Meffiboseth, mab dy feistr di, a fwyty yn wastadol fara ar fy mwrdd i. Ac i Siba yr oedd pymtheg o feibion, ac ugain o weision.

11Yna y dywedodd Siba wrth y brenin, Yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd fy arglwydd y brenin i’w was, felly y gwna dy was. Yna y dywedodd Dafydd, Meffiboseth a fwyty ar fy mwrdd i, fel un o feibion y brenin.

12Ac i Meffiboseth yr oedd mab bychan, a’i enw oedd 1 Cron 8:34Micha. A phawb a’r a oedd yn cyfanheddu tŷ Siba oedd weision i Meffiboseth.

13A Meffiboseth a drigodd yn Jerwsalem: canys ar fwrdd y brenin yr oedd efe yn bwyta yn wastadol: ac yr oedd efe ad. 3yn gloff o’i ddeudroed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help