Nehemeia 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Duwiol arfer gwrando a ddarllen y gyfraith. 9 Nehemeia, ac Esra, a’r Lefiaid, yn cysuro y bobl. 13 Parodrwydd y bobl i wrando, ac i ddysgu. 16 Cadw gŵyl y pebyll.

1A’r holl medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis.

3Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.

4Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i’r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef.

5Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.

6Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr Arglwydd â’u hwynebau tua’r ddaear.

7Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle.

8A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Dduw: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen.

9A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith.

14A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, cymanfa, Lef 23:36yn ôl y ddefod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help