Deuteronomium 25 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Na rodder ychwaneg na deugain gwialennod. 4 Na chauer safn yr ych. 5 Am godi had i frawd. 11 Am y wraig ddigywilydd. 16 Am bwysau anghyfiawn. 17 Rhaid yw dileu coffadwriaeth Amalec.

1Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.

2Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.

3amryw fesur, mawr a bychan.

15Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

16Canys Diar 11:1ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder.

17 Exod 17:8 Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aifft:

18Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o’th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw.

19Am hynny bydded, 2 Sam 15:3pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help