1Pan wybu’r Arglwydd gan hynny glywed o’r Phariseaid fod yr Iesu yn gwneuthur ac bendefig, yr hwn yr oedd ei fab yn glaf yng Nghapernaum.
47Pan glybu hwn ddyfod o’r Iesu o Jwdea i Galilea, efe a aeth ato ef, ac a atolygodd iddo ddyfod i waered, a iacháu ei fab ef: canys yr oedd efe ymron marw.
48Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, 1 Cor 1:22Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
49Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i waered cyn marw fy machgen.
50Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dos ymaith; y mae dy fab yn fyw. A’r gŵr a gredodd y gair a ddywedasai Iesu wrtho, ac efe a aeth ymaith.
51Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i waered, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
52Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasai arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr, y gadawodd y cryd ef.
53Yna y gwybu’r tad mai’r awr honno oedd, yn yr hon y dywedasai Iesu wrtho ef, Y mae dy fab yn fyw. Ac efe a gredodd, a’i holl dŷ.
54Yr ail arwydd yma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Jwdea i Galilea.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
